-
サマリー
あらすじ・解説
Y Bennod Olaf…am rŵan.
Wel, wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf cyfres gyntaf Paid Ymddiheuro – am siwrne gyffrous hyd yn hyn! Diolch i’n gwesteion ni gyd am fod yn rhan o’n stori ni; ‘da chi gyd yn ANHYGOEL.
Dyma gyfle i chi ddod i adnabod tîm Paid Ymddiheuro, Elin a Celyn, ychydig yn well.
Ydych chi wedi sylweddoli sut mae eich teimladau yn newid drwy gydol y mis? A oes gennych chi ffyrdd o ymdopi â’r newidiadau corfforol ac emosiynol rydym i gyd yn profi drwy ein cylchred fislifol? Ydych chi weithiau’n teimlo bo’ chi ‘di cael llond bol?
Wel peidiwch â phoeni, mae Elin a Celyn yn deall yn llwyr. Dewch i ymuno yn eu trafodaeth nhw am eu profiadau gyda teimlo’n isel, teimlo’n hapus a phob dim yn y canol. Cawn glywed ychydig am brofiadau Celyn yn gwirfoddoli yn Sri Lanka a’i stori hi o fyw â gorbryder iechyd. Yn ogystal bydd Elin yn rhannu beth mae hi wedi’i ddysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a’r gylchred fislifol a sut mae hyn yn rhoi pŵer a hyder iddi.
Dydy bywyd ddim yn hawdd. Dydy iechyd menywod ddim yn hawdd. Ond yr hyn sy’n gwneud pob dim yn well yw siarad, addysgu a chael gwared ar stigma. Gobeithio eich bod chi wedi dod yn fwy hyderus wrth wrando ar ein cyfres cyntaf ni ac wedi dechrau … PEIDIO YMDDIHEURO!
Diolch a llawer o gariad,
Elin a Celyn xx
Lincs
https://www.mind.org.uk/
https://meddwl.org/