エピソード

  • Magu Teulu yn ARFOR
    2025/02/18

    Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar faes sy’n agos at galon llawer ohonon ni – magu teulu yng Ngorllewin Cymru.

    Rydyn ni’n sgwrsio â dwy westai arbennig – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees. Mae’r ddwy yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn yr ardal, y manteision unigryw sydd gan fywyd yma i’w gynnig, yn ogystal â’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu.

    続きを読む 一部表示
    19 分
  • Does Dim Byd I'w Wneud Yma!
    2025/02/11

    Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i herio’r gred gyffredin bod ‘dim byd i'w wneud’ yn ardal ARFOR.

    Rydyn ni’n cael cwmni dau westai arbennig sy’n profi’r gwrthwyneb: Gwen Owen, sy’n rhedeg Môn Girls Run, ac Steff Rees, sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous yn ardal Ceredigion. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, byddwn yn clywed sut mae’r ddau ohonyn nhw’n helpu i greu cyfleoedd, cysylltu pobl ifanc â’u cymunedau, a dangos bod y gorllewin yn llawn egni a bywyd i’r genhedlaeth nesaf.

    続きを読む 一部表示
    16 分
  • Rhedeg Busnes yn ARFOR
    2025/01/24

    Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.

    Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.

    Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.

    Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.

    続きを読む 一部表示
    19 分